SL(5)081 - Rheoliadau Prynu Tir yn Orfodol (Datganiadau Breinio) (Cymru) 2017
Cefndir a Phwrpas
Mae’r Rheoliadau hyn yn rhagnodi ffurfiau at ddibenion Deddf Prynu Gorfodol (Datganiadau Breinio) 1981 (‘y Ddeddf’)a deuant i rym ar 6 Ebrill 2017. Maent yn gymwys i brynu tir yn orfodol yng Nghymru.
Mae’r ffurfiau a ragnodir yn adlewyrchu’r newidiadau i’r weithdrefn datganiad breinio cyffredinol a wnaed gan Ran 7 o Ddeddf Tai a Chynllunio 2016.
Gweithdrefn
Negyddol
Craffu Technegol
Nodwyd y pwyntiau canlynol i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn (Rheol Sefydlog 21.2(vi): ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio'r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol; Rheol Sefydlog 21.2(vii): ei bod yn ymddangos bod anghysondebau rhwng ystyr testun Cymraeg a thestun Saesneg yr offeryn neu’r drafft).
Mae testun Saesneg Ffurflen 2 yn cyfeirio’n gyson (ac yn gywir) at Atodlen A1 i’r Ddeddf. Mae testun Cymraeg yn cyfeirio yn anghyson at Atodlen 1A, A1 and A.
Craffu ar rinweddau
Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
16 Mawrth 2017